Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:11-26 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi ei gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i – a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?

12. Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi ei gyflawni eisoes!Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud.

13. Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch.

14. “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd,ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.”Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall.

15. Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens.

16. Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl.

17. Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

18. Roeddwn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i.

19. A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw'n ddoeth neu'n ffŵl? Ond bydd e'n dal i reoli'r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i'w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens!

20. Roeddwn i'n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi ei gyflawni ar y ddaear.

21. Mae rhywun yn gweithio'n galed, ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg.

22. Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd?

23. Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy'r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e'n gwneud dim sens!

24. Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith. A dyma fi'n sylweddoli mai Duw sy'n rhoi hyn i gyd i ni.

25. Heb Dduw does neb yn gallu bwyta na mwynhau bywyd go iawn.

26. Duw sy'n rhoi'r doethineb a'r gallu i fwynhau ei hun i'r sawl sy'n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae'r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael – a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i'w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae'n anodd gwneud sens o'r cwbl – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2