Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 3:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat tiam yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i.Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio.Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i.

12. Bydda i'n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol,a byddan nhw'n trystio'r ARGLWYDD.

13. Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg,yn dweud dim celwydd nac yn twyllo.Byddan nhw fel defaid yn pori'n ddiogelac yn gorwedd heb neb i'w dychryn.”

14. Canwch yn llawen, bobl Seion!Gwaeddwch yn uchel bobl Israel!Byddwch lawen a gorfoleddwch â'ch holl galon,bobl Jerwsalem!

15. Mae'r ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd,ac yn cael gwared â dy elynion di.Bydd Brenin Israel yn dy ganola fydd dim rhaid i ti fod ag ofn.

16. Yr adeg hynny byddan nhw'n dweud wrth Jerwsalem,“Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio.

17. Mae'r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti,fel arwr i dy achub di.Bydd e wrth ei fodd gyda ti.Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad,ac yn dathlu a chanu'n llawen am dy fod yn ôl.”

18. “Bydda i'n casglu'r rhai sy'n galaru am y gwyliau,y rhai hynny mae'r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw.

19. Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin.Bydda i'n achub y defaid cloffac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl.Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmolyn lle codi cywilydd arnyn nhw.

20. Bryd hynny bydda i'n dod â chi'n ôl;bydda i'n eich casglu chi at eich gilydd.Byddwch chi'n enwog drwy'r byd i gyd,pan fydda i'n gwneud i chi lwyddo eto,”—meddai'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 3