Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 3:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig,sy'n gormesu ei phobl!

2. Mae'n gwrthod gwrando ar neb,na derbyn cyngor.Dydy hi ddim yn trystio'r ARGLWYDDnac yn gofyn am arweiniad ei Duw.

3. Mae ei harweinwyr fel llewodyn rhuo yn ei chanol.Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nosyn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore.

4. Mae ei phroffwydi'n brolio ac yn twyllo.Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy'n sanctaidd,ac yn torri Cyfraith Duw.

5. Ac eto mae'r ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol.Dydy e'n gwneud dim sy'n annheg.Mae ei gyfiawnder i'w weld bob bore,mae mor amlwg a golau dydd.Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd.

6. “Dw i wedi dinistrio gwledydd erailla chwalu eu tyrau amddiffyn.Mae eu strydoedd yn wagheb neb yn cerdded arnyn nhw.Mae eu dinasoedd wedi eu difa.Does neb ar ôl, run enaid byw.

7. Meddyliais, ‘Byddi'n fy mharchu i nawr,a derbyn y cyngor dw i'n ei roi i ti!A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistriogan y gosb roeddwn wedi ei fwriadu.’Ond na, roedden nhw'n dal ar frysi wneud popeth sydd o'i le.”

8. Felly mae'r ARGLWYDD yn datgan,“Arhoswch chi amdana i!Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod.Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydda tywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw.Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!”

9. “Yna bydda i'n rhoi geiriau glân i'r holl bobloedd,iddyn nhw i gyd addoli'r ARGLWYDD.A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda'i gilydd.

10. O'r tu draw i afonydd pell dwyrain Affricabydd y rhai sy'n gweddïo arna iyn dod ag anrhegion i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 3