Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 9:8-16 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml,i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod.Fydd neb yn ymosod ar fy mhobli'w gormesu nhw byth eto.Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.

9. Dathlwch bobl Seion!Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!Edrych! Mae dy frenin yn dod.Mae e'n gyfiawn ac yn achub;Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,ie, ar ebol asen.

10. Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel,a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd.Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!

11. Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiadrhyngon ni, wedi ei selio â gwaed –dw i'n mynd i ryddhau eich carcharoriono'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.

12. Dewch adre i'r gaer ddiogel,chi garcharorion – mae gobaith!Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gaelpopeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!

13. Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu,ac Israel ydy'r saeth.Bydda i'n codi dy bobl di, Seion,yn erbyn gwlad Groeg.Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwryn fy llaw.

14. Yna bydd yr ARGLWYDD i'w welduwchben ei bobl,a'i saeth yn tanio fel mellten.Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd,ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.

15. Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn amddiffyn ei bobl.Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl,ac yn gwledda a dathlu fel meddwon.Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberthyn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.

16. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duwyn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl.Byddan nhw'n disgleirio ar ei dirfel cerrig gwerthfawr mewn coron –

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 9