Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 9:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Yna bydd yr ARGLWYDD i'w welduwchben ei bobl,a'i saeth yn tanio fel mellten.Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd,ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.

15. Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn amddiffyn ei bobl.Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl,ac yn gwledda a dathlu fel meddwon.Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberthyn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.

16. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duwyn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl.Byddan nhw'n disgleirio ar ei dirfel cerrig gwerthfawr mewn coron –

17. Mor werthfawr! Mor hardd!Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneudy dynion a'r merched ifanc yn gryf.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 9