Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 9:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y neges roddodd yr ARGLWYDDam ardal Chadrach,yn arbennig tref Damascus.(Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaethfel mae ar lwythau Israel i gyd.)

2. Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus,a Tyrus a Sidon hefyd,sy'n meddwl ei bod mor glyfar.

3. Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryfac mor gyfoethog – mae wedi pentyrruarian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!

4. Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl,ac yn suddo ei llongau yn y môr.Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw!

5. Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn.Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn;ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr.Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd,a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.

6. A bydd pobl o dras cymysg yn setlo yn Ashdod.Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid!

7. Yna wnân nhw byth etofwyta dim gyda gwaed ynddo,na chig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistiayn dod i gredu yn ein Duw –byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda.A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.

8. Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml,i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod.Fydd neb yn ymosod ar fy mhobli'w gormesu nhw byth eto.Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.

9. Dathlwch bobl Seion!Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!Edrych! Mae dy frenin yn dod.Mae e'n gyfiawn ac yn achub;Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,ie, ar ebol asen.

10. Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel,a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd.Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!

11. Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiadrhyngon ni, wedi ei selio â gwaed –dw i'n mynd i ryddhau eich carcharoriono'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.

12. Dewch adre i'r gaer ddiogel,chi garcharorion – mae gobaith!Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gaelpopeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 9