9. Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. (Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr.) Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr.
10. A dyma fi'n gofyn i'r angel, “I ble maen nhw'n mynd â'r gasgen?”
11. A dyma fe'n ateb, “I wlad Babilonia, i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.”