8. Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
9. “Serwbabel wnaeth osod sylfaeni y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.
10. “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.”
11. A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?”
12. A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?”
13. “Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.