Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 4:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu.

2. Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora o aur pur, gyda powlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw.

3. Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i'r powlen.”

4. A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 4