Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 3:4-10 beibl.net 2015 (BNET)

4. A dyma'r angel yn dweud wrth y rhai oedd o'i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe'n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”

5. A dyma fi'n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw'n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi'r wisg amdano, tra roedd yr angel yn sefyll yno.

6. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho,

7. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o'm blaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma.

8. Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn.

9. Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’

10. Ac meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys.’”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 3