Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Felly dyma fi'n bugeilio'r praidd oedd i fynd i'r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn "Haelioni" a'r llall yn "Undod". Yna es i fugeilio'r praidd

8. a sacio'r tri bugail mewn un mis. Roeddwn wedi colli pob amynedd gyda'r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith.

9. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A'r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!”

10. Yna dyma fi'n cymryd fy ffon "Haelioni", a'i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi ei ganslo.

11. Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr ARGLWYDD.

12. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi'n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw'n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi.

13. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‛hael‛ nhw i'r trysordy!” Dyna'r cwbl roedden nhw'n meddwl oeddwn i'n werth! Felly dyma fi'n rhoi'r arian i drysordy teml yr ARGLWYDD.

14. Yna dyma fi'n cymryd y ffon arall, "Undod", a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi darfod.

15. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 11