Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Yna dyma fi'n cymryd fy ffon "Haelioni", a'i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi ei ganslo.

11. Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr ARGLWYDD.

12. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi'n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw'n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi.

13. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‛hael‛ nhw i'r trysordy!” Dyna'r cwbl roedden nhw'n meddwl oeddwn i'n werth! Felly dyma fi'n rhoi'r arian i drysordy teml yr ARGLWYDD.

14. Yna dyma fi'n cymryd y ffon arall, "Undod", a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi darfod.

15. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim.

16. Dw i'n rhoi arweinydd i'r wlad yma – bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy'n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu'r rhai sydd wedi eu hanafu, nac yn bwydo'r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd.

17. Mae ar ben ar fy mugail diwerthsy'n troi cefn ar y praidd!Bydd cleddyf yn taro ei fraichac yn anafu ei lygad dde.Bydd yn colli defnydd o'i fraich,ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 11