Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Agor dy giatiau, Libanus,a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd.

2. Bydd y coed pinwydd yn udo,am fod y coed cedrwydd wedi syrthio –mae'r coed mawreddog wedi eu difrodi.Bydd coed derw Bashan yn udo,am fod y goedwig drwchus wedi ei thorri i lawr.

3. Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo –am fod y borfa odidog wedi ei difetha!Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo –am fod coedwig yr Iorddonen wedi ei difa!

4. Dyma mae'r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia'r praidd sydd i fynd i'r lladd-dy.

5. Mae'r rhai sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn diolch i'r ARGLWYDD am eu gwneud nhw'n gyfoethog. A dydy'r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw.

6. Ac o hyn ymlaen, fydda i'n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny'n dod â dinistr i'r wlad, a fydda i'n achub neb o'u gafael.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 11