Hen Destament

Testament Newydd

Salm 99:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu,felly dylai'r gwledydd grynu!Boed i'r ddaear gyfan grynuo flaen yr un sydd wedi ei orsedduuwch ben y ceriwbiaid!

2. Yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr yn Seion;yr un sy'n rheoli'r holl bobloedd.

3. Boed i bawb dy addoli di – y Duw mawr, rhyfeddol!Ti ydy'r Duw sanctaidd!

4. Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder!Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch,ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.

5. Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw!Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed!Mae e'n sanctaidd!

6. Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad,a Samuel yn galw ar ei enw –Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD,ac roedd e'n ateb.

7. Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl.Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion,a'r rheolau roddodd iddyn nhw.

8. O ARGLWYDD ein Duw, roeddet ti'n eu hateb nhw.Roeddet ti'n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw,ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 99