Hen Destament

Testament Newydd

Salm 93:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!Mae wedi ei arwisgo'n hardd.Mae'r ARGLWYDD wedi ei arwisgo,a'i gryfder fel gwregys am ei ganol.Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!

2. Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl;ti wedi bodoli bob amser!

3. Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O ARGLWYDD,roedd sŵn y tonnau fel taranau,sŵn y tonnau trymion yn torri.

4. Ond roedd yr ARGLWYDD, sydd yn uwch na'r cwbl,yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr,ac yn gryfach na thonnau mawr y môr.

5. Mae dy orchmynion di yn hollol sicr.Sancteiddrwydd sy'n addurno dy dŷ,O ARGLWYDD, a hynny am byth!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 93