1. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!Mae wedi ei arwisgo'n hardd.Mae'r ARGLWYDD wedi ei arwisgo,a'i gryfder fel gwregys am ei ganol.Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!
2. Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl;ti wedi bodoli bob amser!
3. Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O ARGLWYDD,roedd sŵn y tonnau fel taranau,sŵn y tonnau trymion yn torri.