Hen Destament

Testament Newydd

Salm 89:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,Oes rhywun mor gryf â ti, ARGLWYDD?Mae ffyddlondeb yn dy amgylchynu!

9. Ti sy'n rheoli'r môr mawr:pan mae ei donnau'n codi, rwyt ti'n eu tawelu.

10. Ti sathrodd yr anghenfil Rahab; roedd fel corff marw!Ti chwalodd dy elynion gyda dy fraich gref.

11. Ti sydd piau'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo.

12. Ti greodd y gogledd a'r de;mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti.

13. Mae dy fraich di mor bwerus,ac mae dy law di mor gref.Mae dy law dde wedi ei chodi'n fuddugoliaethus.

14. Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd.Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di.

15. Mae'r rhai sy'n dy addoli di'n frwd wedi eu bendithio'n fawr!O ARGLWYDD, nhw sy'n profi dy ffafr di.

16. Maen nhw'n llawenhau ynot ti drwy'r dydd;ac yn cael eu cynnal gan dy gyfiawnder.

17. Ti sy'n rhoi nerth ac ysblander iddyn nhw.Dy ffafr di sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni!

18. Ti, ARGLWYDD, ydy'n tarian.Ti ydy'n brenin ni, Un Sanctaidd Israel.

19. Un tro, dyma ti'n siaradgyda dy ddilynwyr ffyddlon mewn gweledigaeth.“Dw i wedi rhoi nerth i ryfelwr,” meddet ti;“dw i wedi codi bachgen ifanc o blith y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 89