44. Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben,ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.
45. Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd;ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib
46. Am faint mwy, O ARGLWYDD?Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth?Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?
47. Cofia mor fyr ydy fy mywyd!Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd?
48. Does neb byw yn gallu osgoi marw.Pwy sy'n gallu achub ei hun o afael y bedd? Saib
49. O ARGLWYDD, ble mae'r cariad hwnnwwnest ti ei addo'n bendant i Dafydd?
50. Cofia, ARGLWYDD, sut mae dy weision wedi eu cam-drin;a'r baich dw i wedi ei gariowrth i baganiaid wneud hwyl ar ein pennau.
51. Cofia sut mae dy elynion wedi'n cam-drin ni, O ARGLWYDD,ac wedi cam-drin dy eneiniog ble bynnag mae'n mynd.