Hen Destament

Testament Newydd

Salm 89:25-36 beibl.net 2015 (BNET)

25. Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr,a'i law dde ar afonydd Ewffrates.

26. Bydd e'n dweud wrtho i,‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’

27. Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi,yn uwch na holl frenhinoedd y byd.

28. Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth;mae fy ymrwymiad iddo yn hollol ddiogel.

29. Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth,a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd.

30. Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaethac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;

31. os byddan nhw'n torri fy rheolau i,a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,

32. bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel;gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.

33. Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e,a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.

34. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i;bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.

35. Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw,na fydda i byth yn twyllo Dafydd.

36. Bydd ei linach yn aros am byth,a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 89