Hen Destament

Testament Newydd

Salm 89:20-34 beibl.net 2015 (BNET)

20. Dw i wedi dod o hyd i Dafydd, fy ngwas;a'i eneinio'n frenin gyda'r olew sanctaidd.

21. Bydda i yn ei gynnal e,ac yn rhoi nerth iddo.

22. Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged,a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng.

23. Bydda i'n sathru ei elynion o'i flaen;ac yn taro i lawr y rhai sy'n ei gasáu.

24. Bydd e'n cael profi fy ffyddlondeb a'm cariad;a bydda i'n ei anfon i ennill buddugoliaeth.

25. Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr,a'i law dde ar afonydd Ewffrates.

26. Bydd e'n dweud wrtho i,‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’

27. Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi,yn uwch na holl frenhinoedd y byd.

28. Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth;mae fy ymrwymiad iddo yn hollol ddiogel.

29. Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth,a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd.

30. Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaethac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;

31. os byddan nhw'n torri fy rheolau i,a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,

32. bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel;gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.

33. Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e,a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.

34. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i;bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 89