2. Cyhoeddi fod dy haelioni yn ddiddiwedd;dy ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
3. Dwedaist,“Dw i wedi gwneud ymrwymiad i'r un dw i wedi ei ddewis,ac wedi tyngu llw wrth Dafydd fy ngwas:
4. ‘Bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion yn sefydlog am bythac yn cynnal dy orsedd ar hyd y cenedlaethau.’” Saib
5. Mae'r pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneudyn cael eu canmol yn y nefoedd, O ARGLWYDD,a dy ffyddlondeb hefyd gan yr angylion sanctaidd!
6. Pwy sy'n debyg i'r ARGLWYDD yn y cymylau uchod?Pa un o'r bodau nefol sy'n debyg i'r ARGLWYDD?
7. Duw ydy'r un sy'n codi braw ar yr angylion sanctaidd;mae e mor syfrdanol i'r rhai sydd o'i gwmpas.
8. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,Oes rhywun mor gryf â ti, ARGLWYDD?Mae ffyddlondeb yn dy amgylchynu!
9. Ti sy'n rheoli'r môr mawr:pan mae ei donnau'n codi, rwyt ti'n eu tawelu.
10. Ti sathrodd yr anghenfil Rahab; roedd fel corff marw!Ti chwalodd dy elynion gyda dy fraich gref.
11. Ti sydd piau'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo.
12. Ti greodd y gogledd a'r de;mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti.
13. Mae dy fraich di mor bwerus,ac mae dy law di mor gref.Mae dy law dde wedi ei chodi'n fuddugoliaethus.
14. Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd.Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di.