Hen Destament

Testament Newydd

Salm 89:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n mynd i ganu am byth am gariad yr ARGLWYDD;dweud am dy ffyddlondeb wrth un genhedlaeth ar ôl y llall.

2. Cyhoeddi fod dy haelioni yn ddiddiwedd;dy ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.

3. Dwedaist,“Dw i wedi gwneud ymrwymiad i'r un dw i wedi ei ddewis,ac wedi tyngu llw wrth Dafydd fy ngwas:

4. ‘Bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion yn sefydlog am bythac yn cynnal dy orsedd ar hyd y cenedlaethau.’” Saib

5. Mae'r pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneudyn cael eu canmol yn y nefoedd, O ARGLWYDD,a dy ffyddlondeb hefyd gan yr angylion sanctaidd!

6. Pwy sy'n debyg i'r ARGLWYDD yn y cymylau uchod?Pa un o'r bodau nefol sy'n debyg i'r ARGLWYDD?

Darllenwch bennod gyflawn Salm 89