9. Mae fy llygaid yn wan gan flinder;O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd;dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.
10. Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw?Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib
11. Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon?Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon?
12. Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?
13. Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD.Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.
14. Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i?Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?
15. Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc;dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy,nes fy mod wedi fy mharlysu.
16. Mae dy lid wedi llifo drosta i;mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.
17. Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd;maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.