Hen Destament

Testament Newydd

Salm 88:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dw i mewn helynt dychrynllyd;yn wir, dw i bron marw.

4. Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd.Dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd,

5. ac wedi ei adael i farw a'i daflu i fedd cyffredingyda'r milwyr eraill sydd wedi eu lladd –y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach,ac sydd ddim angen dy ofal bellach.

6. Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll,mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.

7. Mae dy ddig yn pwyso'n drwm arna i.Dw i'n boddi dan dy donnau di. Saib

8. Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw;dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw.Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.

9. Mae fy llygaid yn wan gan flinder;O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd;dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.

10. Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw?Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib

11. Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon?Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon?

12. Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?

13. Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD.Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 88