Hen Destament

Testament Newydd

Salm 86:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i.Mae yna griw creulon am fy lladd i,Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.

15. Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig,rwyt mor amyneddgar!Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!

16. Tro ata i, a dangos drugaredd!Rho dy nerth i dy was,Achub blentyn dy gaethferch!

17. Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni,er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynnya chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD,wedi fy helpu i a'm cysuro.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 86