Hen Destament

Testament Newydd

Salm 86:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwranda, O ARGLWYDD, ac ateb fi!Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.

2. Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti!Achub dy was. Ti ydy fy Nuwa dw i'n dy drystio di.

3. Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD!Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.

4. Gwna dy was yn llawen eto!Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti ARGLWYDD.

5. Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti!

6. Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD!Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd!

7. Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat,am mai ti sy'n gallu fy ateb i.

8. Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD!Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.

9. Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creuyn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD!Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,

10. am dy fod ti'n Dduw mawrac yn gwneud pethau anhygoel!Ti ydy'r unig Dduw go iawn!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 86