59. Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog;a gwrthododd Israel yn llwyr.
60. Trodd gefn ar ei dabernacl yn Seilo,sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl.
61. Gadawodd i'w Arch gael ei dal;rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn!
62. Gadawodd i'w bobl gael eu lladd gan y cleddyf;roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth.
63. Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc,ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi.
64. Trawodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr,a doedd dim amser i'r gweddwon alaru.
65. Ond yna dyma'r Meistr yn deffro!Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win.
66. Gyrrodd ei elynion yn eu holaua chodi cywilydd arnyn nhw am byth.
67. Ond yna gadawodd dir Joseff;a pheidio dewis llwyth Effraim.
68. Dewisodd lwyth Jwda,a Mynydd Seion mae mor hoff ohono.
69. Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd,ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi ei sefydlu am byth.