Hen Destament

Testament Newydd

Salm 78:50-64 beibl.net 2015 (BNET)

50. i agor llwybr i'w lid.Wnaeth e ddim arbed eu bywydau,ond anfon haint i'w dinistrio nhw.

51. Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft,ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham.

52. Yna aeth â'i bobl allan fel defaid,a'u harwain fel praidd yn yr anialwch.

53. Arweiniodd nhw'n saff a heb ofn;ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr.

54. Yna daeth â nhw i'w dir cysegredig,i'r mynydd oedd wedi ei gymryd trwy rym.

55. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau,a rhannu'r tir rhyngddyn nhw;gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle.

56. Ond dyma nhw'n rhoi'r Duw Goruchaf ar brawf eto!Gwrthryfela yn ei erbyn,a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn.

57. Dyma nhw'n troi eu cefnau arno,a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid;roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim!

58. Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio;a'u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus.

59. Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog;a gwrthododd Israel yn llwyr.

60. Trodd gefn ar ei dabernacl yn Seilo,sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl.

61. Gadawodd i'w Arch gael ei dal;rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn!

62. Gadawodd i'w bobl gael eu lladd gan y cleddyf;roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth.

63. Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc,ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi.

64. Trawodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr,a doedd dim amser i'r gweddwon alaru.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 78