30. Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta,pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau,
31. dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e!Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw,a tharo i lawr rai ifanc Israel.
32. Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw'n dal i bechu!Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol.
33. Yn sydyn roedd Duw wedi dod a'u dyddiau i ben;daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl.
34. Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw'n ei geisio;roedden nhw'n troi'n ôl ato a hiraethu amdano.
35. Dyma nhw'n cofio mai Duw oedd eu Craigac mai'r Duw Goruchaf oedd wedi eu rhyddhau nhw.
36. Ond doedd eu geiriau'n ddim byd ond rhagrith;roedden nhw'n dweud celwydd.
37. Doedden nhw ddim wir o ddifrif;nac yn ffyddlon i'w hymrwymiad.
38. Ac eto, mae Duw mor drugarog!Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal;wnaeth e ddim eu dinistrio nhw.Roedd yn ffrwyno ei deimladau dro ar ôl tro,yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw.
39. Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw;chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl.
40. Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch,a peri gofid iddo yn y tir diffaith.