Hen Destament

Testament Newydd

Salm 71:16-24 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dw i'n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud– fy meistr, fy ARGLWYDD –a dathlu'r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig!

17. O Dduw, dw i wedi profi'r peth ers pan yn ifanc,ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddolrwyt ti'n eu gwneud hyd heddiw.

18. Dw i bellach yn hen a'm gwallt yn wyn,ond paid gadael fi nawr, O Dduw.Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddodam dy gryfder a'r pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.

19. Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw!Ti wedi gwneud pethau mor fawr –O Dduw, does neb tebyg i ti!

20. Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw,wnei di adael i mi fyw eto?Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear?

21. Adfer fy enw da!Cysura fi unwaith eto.

22. Yna byddaf yn dy foli gyda'r nabl,a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw!Bydda i'n canu i ti gyda'r delyn,O Un Sanctaidd Israel.

23. Bydda i'n gweiddi'n llawen,ac yn canu i ti go iawn –ie, â'm holl nerth, am i ti ngollwng i'n rhydd.

24. Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder.Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a'u cywilyddio!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 71