Hen Destament

Testament Newydd

Salm 71:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;paid gadael i mi gael fy siomi.

2. Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi'n rhydd.Gwranda arna i! Achub fi!

3. Bydd yn graig i mi gysgodi tani –yn gaer lle bydda i'n hollol saff!Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.

4. Fy Nuw, achub fi o ddwylo'r rhai drwg,ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon.

5. Achos ti ydy fy ngobaith i,fy meistr, fy ARGLWYDD.Dw i wedi dy drystio di ers pan o'n i'n ifanc.

6. Dw i'n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni;ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam;a ti ydy testun fy mawl bob amser.

7. Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer,am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi.

8. Dw i'n dy foli di drwy'r adeg,ac yn dy ganmol drwy'r dydd.

9. Paid taflu fi ffwrdd yn fy henaint;a'm gadael wrth i'r corff wanhau!

10. Mae fy ngelynion yn siarad amdana i;a'r rhai sy'n gwylio fy mywyd yn cynllwynio.

11. “Mae Duw wedi ei adael,” medden nhw;“Ewch ar ei ôl a'i ddal;fydd neb yn dod i'w achub!”

12. O Dduw, paid mynd yn rhy bell!Fy Nuw, brysia i'm helpu i!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 71