Hen Destament

Testament Newydd

Salm 7:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas;eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!

8. Mae'r ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd!Achub fy ngham, O ARGLWYDD,achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai.

9. O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod,stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud.Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn.

10. Mae'r Duw mawr fel tarian i mi;mae'n achub yr un sy'n byw'n iawn.

11. Mae Duw yn farnwr cyfiawn,ond mae'n dangos bob dydd ei fod wedi digio

12. wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod.Mae'n rhoi min ar ei gleddyf,yn plygu ei fwa ac yn anelu.

13. Mae'n paratoi arfau marwolac yn defnyddio saethau tanllydi ymladd yn eu herbyn.

14. Edrychwch! Mae'r dyn drwg wrthi eto!Mae'n feichiog o ddrygioni,ac yn geni dim byd ond twyll!

15. Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill,bydd yn syrthio i'w drap ei hun!

16. Bydd y drwg mae'n ei wneud yn ei daro'n ôl;a'i drais yn ei fwrw ar ei dalcen.

17. A bydda i'n moli'r ARGLWYDD am fod mor gyfiawn,ac yn canu emyn o fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 7