Hen Destament

Testament Newydd

Salm 69:4-13 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i,nag sydd o flew ar fy mhen.Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i,ac eisiau fy nistrywio i.Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?

5. O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i.Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneudddim wedi eu cuddio oddi wrthot ti.

6. Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i,Feistr, ARGLWYDD holl-bwerus.Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu,O Dduw Israel.

7. Ti ydy'r rheswm pam dw i'n cael fy sarhau,a'm cywilyddio;

8. Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i;dw i fel rhywun estron i'm brodyr a'm chwiorydd.

9. Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i;dw i'n cael fy sarhau gan y rhai sy'n dy sarhau di.

10. Hyd yn oed pan oeddwn i'n wylo ac ymprydioroeddwn i'n destun sbort.

11. Roedd pobl yn gwneud hwyl ar fy mhenpan oeddwn i'n gwisgo sachliain.

12. Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i;a dw i'n destun cân i'r meddwon.

13. O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat tiac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i.O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon,ateb fi ac achub fi.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69