Hen Destament

Testament Newydd

Salm 69:31-36 beibl.net 2015 (BNET)

31. Bydd hynny'n plesio'r ARGLWYDD fwy nag ychen,neu darw gyda chyrn a charnau.

32. Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu.Felly codwch eich calonnau, chi sy'n ceisio dilyn Duw!

33. Mae'r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen,a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy'n gaeth.

34. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ei foli,a'r môr hefyd, a phopeth sydd ynddo!

35. Oherwydd bydd Duw yn achub Seionac yn adeiladu trefi Jwda eto.Bydd y bobl sy'n ei wasanaethuyn byw yno ac yn meddiannu'r wlad.

36. Bydd eu disgynyddion yn ei hetifeddu;a bydd y rhai sy'n caru ei enw yn cael byw yno.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69