Hen Destament

Testament Newydd

Salm 69:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. Tyrd yma! Gollwng fi'n rhydd!Gad i mi ddianc o afael y gelynion.

19. Ti'n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau,a'm bychanu a'm cywilyddio.Ti'n gweld y gelynion i gyd.

20. Mae'r sarhau wedi torri fy nghalon i.Dw i'n anobeithio.Dw i'n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim;am rai i'm cysuro, ond does neb.

21. Yn lle hynny maen nhw'n rhoi gwenwyn yn fy mwyd,ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched.

22. Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl iddyn nhw,ac yn drap i'w ffrindiau nhw.

23. Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall.Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy'r adeg.

24. Tywallt dy ddicter arnyn nhw.Gwylltia'n gynddeiriog gyda nhw.

25. Gwna eu gwersylloedd nhw yn anial,heb neb yn byw yn eu pebyll!

26. Maen nhw'n blino y rhai rwyt ti wedi eu taro,ac yn siarad am boen yr rhai rwyt ti wedi eu hanafu.

27. Ychwanega hyn at y pethau maen nhw'n euog o'u gwneud.Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd!

28. Rhwbia eu henwau oddi ar sgrôl y rhai sy'n fyw,Paid rhestru nhw gyda'r bobl sy'n iawn gyda ti.

29. Ond fi – yr un sy'n dioddef ac mewn poen –O Dduw, achub fi a chadw fi'n saff.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 69