6. Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu,ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth.Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch.
7. O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan,ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib
8. dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glawo flaen Duw, yr un oedd ar Sinai,o flaen Duw, sef Duw Israel.
9. Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw,ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo.
10. Dyna ble mae dy bobl yn byw.Buost yn dda, a rhoi yn hael i'r anghenus, O Dduw.
11. Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair,ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da:
12. Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys,a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail.
13. “Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau,dyma i ti adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag ariana blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.”
14. Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd,roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon!
15. O fynydd anferth, mynydd Bashan;O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan;
16. O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennuso'r mynydd mae Duw wedi ei ddewis i fyw arno?Dyna ble bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth!
17. Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau,a miloedd ar filoedd o filwyr.Mae'r ARGLWYDD gyda nhw;mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr!