22. Dwedodd yr ARGLWYDD,“Bydda i'n dod a'r gelynion yn ôl o Bashan,ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr!
23. Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed,a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.”
24. Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw,yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin,yn mynd i'r cysegr.
25. Y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwryng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn.
26. “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr!Bendithiwch yr ARGLWYDD,bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.”
27. Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain;penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd;penaethiaid Sabulon a Nafftali.
28. Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf!O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym
29. wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem.Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti!
30. Cerydda fwystfil y corsydd brwyn,y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi!Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd.Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl!
31. Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft,a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw.
32. Canwch i Dduw, chi wledydd y byd!Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib