Hen Destament

Testament Newydd

Salm 68:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. O fynydd anferth, mynydd Bashan;O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan;

16. O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennuso'r mynydd mae Duw wedi ei ddewis i fyw arno?Dyna ble bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth!

17. Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau,a miloedd ar filoedd o filwyr.Mae'r ARGLWYDD gyda nhw;mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr!

18. Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir,ac arwain caethion ar dy ôl,a derbyn rhoddion gan bobl –hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebui ti aros yno, ARGLWYDD Dduw.

19. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig!Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd.Duw ydy'n hachubwr ni! Saib

20. Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub!Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth.

21. Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion –pob copa walltog sy'n euog o'i flaen.

22. Dwedodd yr ARGLWYDD,“Bydda i'n dod a'r gelynion yn ôl o Bashan,ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr!

23. Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed,a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.”

24. Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw,yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin,yn mynd i'r cysegr.

25. Y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwryng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 68