Hen Destament

Testament Newydd

Salm 64:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian.Amddiffyn fi rhag y gelynion sy'n ymosod.

2. Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg;y gang sydd ddim ond am godi twrw.

3. Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau,ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.

4. Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog –ei saethu'n ddi-rybudd. Dŷn nhw'n ofni dim.

5. Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg,ac yn siarad am osod trapiau,gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”

6. Maen nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd,“Y cynllun perffaith!” medden nhw.(Mae'r galon a'r meddwl dynol mor ddwfn!)

7. Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda'i saeth e;yn sydyn byddan nhw wedi syrthio.

8. Bydd eu geiriau yn arwain at eu cwymp,a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau'n syn.

9. Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan!Byddan nhw'n siarad am beth wnaeth Duw,ac yn dechrau deall sut mae e'n gweithredu.

10. Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn gorfoledduyn yr ARGLWYDD;ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe.Bydd pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dathlu.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 64