4. Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig,neu gobra sy'n cau ei chlustiau.
5. Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr,er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.
6. Torra eu dannedd nhw, O Dduw!Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD.
7. Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych;gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri.
8. Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud;neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!
9. Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt,cyn i grochan deimlo gwres tân agored.
10. Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch.Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg!
11. A bydd pobl yn dweud,“Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr!Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!”