Hen Destament

Testament Newydd

Salm 58:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn?Ydych chi'n barnu pobl yn deg?

2. Na! Dych chi'n anghyfiawn,ac yn lledu trais ym mhobman.

3. Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni;yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau.

4. Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig,neu gobra sy'n cau ei chlustiau.

5. Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr,er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.

6. Torra eu dannedd nhw, O Dduw!Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD.

7. Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych;gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri.

8. Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud;neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!

9. Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt,cyn i grochan deimlo gwres tân agored.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 58