Hen Destament

Testament Newydd

Salm 57:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dangos drugaredd ata i, O Dduw,dangos drugaredd ata i!Dw i'n troi atat ti am loches.Dw i am guddio dan dy adenydd dines bydd y storm yma wedi mynd heibio.

2. Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf;ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.

3. Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub.Bydd yn herio y rhai sy'n fy erlid. Saib Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!

4. Mae llewod ffyrnig o'm cwmpas i ym mhobman,rhai sy'n bwyta pobl –Mae eu dannedd fel picellau neu saethau,a'u tafodau fel cleddyfau miniog.

5. Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!

6. Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal –a minnau'n isel fy ysbryd.Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i,ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo! Saib

7. Dw i'n benderfynol, O Dduw;dw i'n hollol benderfynol!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 57