Hen Destament

Testament Newydd

Salm 52:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti,ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr?Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon!

2. Rwyt ti'n cynllwynio dinistr,ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!

3. Mae drwg yn well na da gen ti,a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib

4. Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl,ac yn twyllo pobl.

5. Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth!Bydd yn dy gipio allan o dy babell,ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib

6. Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth,ac wedi eu syfrdanu.Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,

7. “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help!Y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth,ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!”

8. Ond dw i'n llwyddo fel coeden olewydd sy'n tyfu yn nhÅ· Dduw!Dw i'n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser.

9. Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw,am beth rwyt ti wedi ei wneud.Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di.Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 52