Hen Destament

Testament Newydd

Salm 39:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel.Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen.

9. Dw i'n fud, ac yn methu dweud dimo achos beth rwyt ti wedi ei wneud.

10. Plîs paid dal ati i'm taro!Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth bron!

11. Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau,er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannufel gwyfyn yn colli ei nerth.Ydy, mae bywyd pawb fel tarth! Saib

12. Clyw fy ngweddi, O ARGLWYDD.Gwranda arna i'n gweiddi am help;paid diystyru fy nagrau!Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti.Fel fy hynafiaid dw i angen dy help.

13. Stopia syllu mor ddig arna i.Gad i mi fod yn hapus unwaith eto,cyn i mi farw a pheidio â bod.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 39