1. Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
2. Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
3. Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? –
4. Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;yr un sydd ddim yn twylloneu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
5. Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;byddan nhw'n cael eu derbyni berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.
6. Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato:y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob. Saib
7. Giatiau'r ddinas, edrychwch!Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!