Hen Destament

Testament Newydd

Salm 24:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;y byd, a phawb sy'n byw ynddo.

2. Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.

3. Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? –

4. Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;yr un sydd ddim yn twylloneu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.

5. Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;byddan nhw'n cael eu derbyni berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.

6. Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato:y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob. Saib

7. Giatiau'r ddinas, edrychwch!Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!

8. Pwy ydy'r Brenin gwych yma? –yr ARGLWYDD, cryf a dewr,yr ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr!

9. Giatiau'r ddinas, edrychwch!Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!

10. Pwy ydy'r Brenin gwych yma? –Yr ARGLWYDD holl-bwerus!Fe ydy'r Brenin gwych! Saib

Darllenwch bennod gyflawn Salm 24