Hen Destament

Testament Newydd

Salm 21:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ti'n ei fendithio â phopeth da,ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.

4. Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo –bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.

5. Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.

6. Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.

7. Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD.Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.

8. Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion;byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.

9. Pan fyddi'n dod i'r golwgbyddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais.Mae'r ARGLWYDD yn ddig,a bydd yn eu dinistrio nhw;bydd tân yn eu llosgi nhw.

10. Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear;byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth.

11. Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti;roedd ganddyn nhw gynllunond allen nhw byth lwyddo.

12. Ti'n gwneud iddyn nhw droi yn ôldrwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw.

13. Cod, ARGLWYDD! Dangos dy nerth!Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 21