Hen Destament

Testament Newydd

Salm 21:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, mae'r brenin yn llawenam dy fod ti'n ei nerthu;mae'n gorfoleddu'n fawram dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo!

2. Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano. Saib

3. Ti'n ei fendithio â phopeth da,ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.

4. Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo –bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.

5. Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.

6. Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.

7. Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD.Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.

8. Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion;byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 21