Hen Destament

Testament Newydd

Salm 2:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin –maen nhw'n destun sbort i'r ARGLWYDD!

5. Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig:

6. “Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion,fy mynydd cysegredig!”

7. Gadewch i mi ddweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddatgan:Dwedodd wrtho i,“Ti ydy fy mab i;heddiw des i yn Dad i ti.

8. Dim ond i ti ofyn,cei etifeddu'r cenhedloedd.Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw'r byd.

9. Byddi'n eu malu â phastwn haearnyn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”

10. Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth;dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!

11. Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch;byddwch yn falch ei fod wedi'ch dychryn chi!

12. Plygwch, a thalu teyrnged i'r mab;neu bydd yn digio a cewch eich difapan fydd yn dangos mor ddig ydy e.Mae pawb sy'n troi ato am locheswedi eu bendithio'n fawr!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 2