Hen Destament

Testament Newydd

Salm 16:5-11 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau.Mae fy nyfodol i yn dy law di.

6. Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;mae gen i etifeddiaeth hyfryd.

7. Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i;ac am siarad gyda mi yn y nos.

8. Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi.Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.

9. Felly, mae fy nghalon i'n llawen!Dw i'n gorfoleddu!Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!

10. Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw,na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.

11. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydda hyfrydwch diddiwedd bob amser.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 16